Gwybodaeth am Brosiectau

 

Teitl y Prosiect A470 Gwaith Lliniaru Sŵn
Rhif y Ffordd A470
Cyfeiriad Grid ST115863
Math o Raglen Lliniaru Sŵn
Cam gweithredu Adeiladu
Cynllunydd Glamorgan Engineering Consultancy
Disgrifiad o’r Prosiect

Yn 2002 gwnaed Astudiaeth Sŵn ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y rhwydwaith cefnffyrdd cyfan gan nodi lleoliadau lle'r oedd poendod sŵn posibl yn cael ei achosi gan agosrwydd y gefnffordd i eiddo trigolion lleol. Astudiaeth pen desg oedd hon a nodwyd nifer o leoliadau ac wedyn blaenoriaethwyd y rhain mewn pedwar categori. Nodwyd cynlluniau a allai elwa o ddefnyddio gwahanol fath o arwynebedd ffordd a’r rhai a fyddai’n elwa o rwystrau lleihau sŵn. Yn yr adroddiad nodwyd lleoliad Nantgarw i Upper Boat ar yr A470 fel cynllun a fyddai’n elwa o ddefnyddio rhwystrau lleihau sŵn.

Ers cyhoeddi’r adroddiad adeiladwyd nifer o gynlluniau ac yn y flwyddyn ariannol 2006/2007 cynlluniwyd ac adeiladwyd cynllun yn lleoliad Nantgarw i Upper Boat ar yr A470. I ganiatáu codi rhwystrau rhag sŵn roedd angen newidiadau i system atal y ffordd ynghyd â’r addasiadau i’r colofnau goleuadau yn yr ardal.

Gwnaed gwaith adeiladu’r cynllun gan Gontractwr Fframwaith Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru, Cemex, a dechreuodd y gwaith yn Chwefror 2007. Cwblhawyd y gwaith yng Ngorffennaf 2007.


Nod y Prosiect / Manteision

Nod y prosiect yw lleihau lefel y sŵn i’r trigolion lleol a geir ar yr A470 i lefel sŵn is a mwy derbyniol. Defnyddiwyd rhwystrau amsugno sŵn o bren ar gyfer y lleoliad hwn. Rhagwelir mai’r manteision i’r trigolion lleol fydd lefel is o sŵn traffig yn nghartrefi’r bobl yn dod o’r A470.


Dyddiad Dechrau Hyd Dyddiad Cwblhau
Chwefror 2007 5 Mis Gorffennaf 2007
Gwerth y Prosiect Cyfan (£) 138,000
Cyn/Yn ystod Adeiladu Ffotograffau Ar ôl Adeiladu
A470 Noise Mitigation Pre Construction 1 A470 Noise Mitigation Pre Construction 2
A470 Noise Mitigation Completed 1 A470 Noise Mitigation Completed 2