Gwybodaeth am Brosiectau

Teitl y Prosiect M48 Pont Hafren, Cynllun Ffiltro Traffig mewn Gwynt Uchel.
Rhif y Ffordd. M48
Cyfeiriad Grid 353520, 191520
Math o Raglen Uwchraddio
Cam gweithredu Adeiladwyd
Cynllunydd Capita Symonds
Project Description

Ers cwblhau Pont Hafren, yn ystod cyfnodau o wyntoedd uchel bu achlysuron pan ddargyfeiriwyd traffig trwy Drefynwy / Caerloyw. Fodd bynnag, mae adeiladu Ail Bont Hafren wedi caniatáu i’r cerbydau hyn gael eu dargyfeirio’n ôl i’r M4 Cyffordd 23 ac wedyn ar draws Ail Bont Hafren. Yn y gorffennol dargyfeiriwyd y cerbydau i gyd trwy godi arwyddion â llaw a thrwy hynny’n cau’r mynediad i’r M48 Cyffordd 2 Cyfnewidfa Newhouse.

I ganiatáu ffiltro traffig a lleihau’r amser ar gyfer gweithrdu’r cau ac er diogelwch y gweithwyr fydd yn codi’r arwyddion, gwnaed cynllun i awtomeiddio’r broses hon. Mae’r gwaith yn cynnwys gosod arwyddion cylchdroadol newydd wedi’u rheoli o bell i ffiltro a rheoli’r traffig sy’n defnyddio Pont Hafren yn ystod gwyntoedd uchel.

Gwnaed gwaith adeiladu’r cynllun gan Gontractwr Fframwaith Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru, Alun Griffiths, a dechreuwyd y gwaith yn Ionawr 2007. Cwblhawyd y gwaith yn Ebrill 2007.


Nod y Prosiect / Manteision

Nod y prosiect yw darparu arwyddion rhybuddio ymlaen llaw wedi’u rheoli o bell ar gyfer ffiltro a rheoli cerbydau yn ystod cau Pont Hafren oherwydd gwynt uchel trwy ddargyfeirio traffig trwy’r M4 yng Nghyffordd 23 Magor, ac wedyn ymlaen at Ail Bont Hafren.


Dyddiad Dechrau Hyd Dyddiad Cwblhau
Ionawr 2007 3 Mis Ebrill 2007
Gwerth y Prosiect Cyfan (£)
Cyn/Yn ystod Adeiladu Ffotograffau Ar ôl Adeiladu
M48 Seven Bridge – High Wind Traffic Filtering Scheme Completed 1 M48 Seven Bridge – High Wind Traffic Filtering Scheme Completed 2