Gwybodaeth am Brosiectau

Teitl y Prosiect M4 Cyffordd 41 – 2  Arwyddion Cyflymder Electronig
Rhif y Ffordd . M4
Cyfeiriad Grid: 275520, 190720
Math o Raglen Gwneud Gwell Defnydd
Cam gweithredu Adeiladu
Cynllunydd Castell-nedd Port Talbot
Disgrifiad o’r Prosiect

Er mwyn gorfodi terfyn cyflymder o 50 m.y.a. ar hyd y darn o draffordd rhwng Cyffordd 40 a Chyffordd 41, roedd Partneriaeth Camerâu Diogelwch De Cymru mewn cytundeb â Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gosod camerâu diogelwch yn gyfagos i Gyffordd 41. Ers gosod y camera diogelwch ar y lôn gerbydau i’r gorllewin, cafwyd problemau gyda chiwio o gwmpas cyffordd 41.

Datblygwyd y cynllun i leihau a lliniaru’r ciwio ar y darn hwn o’r draffordd, trwy symud y camera diogelwch ac yn ei le gosod dau arwydd cyflymder logio data a ysgogir gan gyflymder.



Gwnaed gwaith adeiladu’r cynllun gan Gontractwr Fframwaith Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru, Cemex, a dechreuwyd y gwaith ym Mehefin 2007.


Nod y Prosiect / Manteision

Nod y prosiect yw symud ciwio traffig ar hyd y darn hwn o’r draffordd a gwella llif y traffig. Rhagwelir mai’r manteision i ddefnyddwyr y draffordd fydd lleihau amser teithio. Gall bywyd y trigolion lleol wella oherwydd llai o sŵn y traffig a gollyngiadau oherwydd bod cerbydau’n symud yn araf.


Dyddiad Dechrau Hyd Dyddiad Cwblhau
Mehefin 2007 1 Mis Mehefin 2007
Gwerth y Prosiect Cyfan (£) 50,000
Cyn/Yn ystod Adeiladu Ffotograffau Ar ôl Adeiladu
M4 Junction 41 – 2 number Electronic Speed Signs Pre Construction 1 M4 Junction 41 – 2 number Electronic Speed Signs Pre Construction 2