| Disgrifiad o’r Prosiect |
Yn dilyn dadansoddi’r strwythurau ar hyd yr A40 rhwng Rhaglan a’r Fenni, nodwyd problemau yng nghyflwr diddosrwydd lloriau’r pontydd. Hefyd gwelwyd problemau gyda’r rhwystrau diogelwch mewn rhai lleoliadau a difrod i ddau gylfat yn y Fenni.
Cytunwyd ar raglen i adnewyddu diddosrwydd lloriau’r pontydd ar gefnffordd yr A40, ynghyd â gwelliannau i rwystrau atal cerbydau ar y pontydd. Gwneir gwaith cynnal a chadw i’r cylfatiau a ddifrodwyd yn y Fenni hefyd fel rhan o’r cynllun.
Bydd Contractwr Fframwaith Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru, Alun Griffiths, yn gwneud y gwaith adeiladu ar y cynllun a bydd y gwaith yn dechrau yn Nhachwedd 2007. Mae’r gwaith i’w orffen erbyn Mawrth 2008.
|