Gwybodaeth am Brosiectau

Teitl y Prosiect M4 Cyffordd 24 / A449 Astudiaeth Cylchfan Coldra
Rhif y Ffordd M4 / A449
Cyfeiriad Grid 336010, 189635
Math o Raglen Uwchraddio
Cam gweithredu Cynllun Manwl
Designer Capita Symonds
Cynllunydd

Yn dilyn yr oedi i draffig a gafwyd yng nghyfnewidfa Coldra a Chwpan Ryder 2010, bwriadwyd ail-gyflunio’r gyfnewidfa i ganiatáu i’r traffig symud yn well yn yr ardal.

O fodelu’r traffig yng nghyfnewidfa Coryton ac er mwyn cynyddu llif y traffig, bwriedir adeiladu ‘lôn hamburger’ o dan draphont bresennol yr M4 i ganiatau traffig sy’n dod o’r A449 gael gwell mynediad ymuno â’r M4 i’r gorllewin. Hefyd mae lôn un pwrpas newydd o ffordd ymadael i’r gorllewin ar yr M4 i Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol Casnewydd, a thrydedd lôn o’r Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol i’r cylchdroad, yn creu mwy o le ar y cylchdroad. Caiff y cylchdroad ei ledaenu i bedair lôn a gwneir mân welliannau i ffyrdd dynesu’r A449 a Ffordd Cas-gwent a gosodir signalau newydd fel rhan o’r gwaith.

Rheolir y gwaith gan broses caffael Ewropeaidd, a gwahoddir partïon sydd â diddordeb i dendro ar gyfer y gwaith. Llunnir rhestr ddethol yn dilyn asesu’r diddordeb a ddangoswyd, a gofynnir i’r cwmnïau hyn dendro am y gwaith. Dechreuir y gwaith yn Chwefror 2008 a bydd yn cymryd 8 mis i’w gwblhau.

Nod y Prosiect / Manteision

Nod y prosiect yw gwella’r lle i draffig ar gylchdroad Coldra yn barod ar gyfer Cwpan Ryder 2010 a pharatoi ar gyfer twf traffig yn y dyfodol. Rhagwelir mai’r manteision i’r trigolion lleol fydd dileu ciwiau yn y dyfodol a gwella llif y traffig ac felly lleihau tagfeydd a llygryddion.


Dyddiad Dechrau Hyd Dyddiad Cwblhau
Chwefror 2008 8 Mis Rhagfyr 2008
Gwerth y Prosiect Cyfan (£) 3,500,000
Cyn/Yn ystod Adeiladu Ffotograffau Ar ôl Adeiladu