Dros y blynyddoedd cafwyd problemau gyda chiwiau gormodol ar yr M4 Cyffordd 32 Cyfnewidfa Coryton. Yn dilyn asesiad o’r llif traffig a maint y ciwio wrth fynedfeydd y system gylchu ac ar y system gylchu ei hunan, mae’n amlwg y byddai’n fuddiol gosod system signalau MOVA (Cychwyn cerbydau trwy ficrobrosesyddion) ar y system gylchu i reoli llif y cerbydau trwy’r gyffordd trwy optimeiddio hyd y ciwio ar bob ffordd ddynesu.
Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu gan Gontractwr Fframwaith Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru ym Mawrth 2007. Gorffennwyd y gwaith yn Awst 2007.
|