Gwaith Cyfalaf
Cynllun wedi’i lunio i wella rhan o rwydwaith cefnffyrdd a gwella ei werth dros gyfnod o amser estynedig (o’i gymharu â chynnal yr ased presennol) yw cynllun cyfalaf. Mae’n cynnwys cost caffael, adeiladu a gosod rhan newydd y rhwydwaith, p’un ai ar gyfer ailosod asedau sydd wedi treulio neu wedi goroesi neu fel ychwanegiad at y rhwydwaith presennol.
Isod ceir disgrifiad byr o bob math o gynllun sydd wedi’i weithredu yn Ne Cymru.
Ymchwiliadau Cychwynnol
Bwriedir y gyllideb hon i gynnwys gwaith ymchwilio cychwynnol lle gwelwyd bod problem. Bwriad y gwaith yw sefydlu p’un a fydd yn arwain at nodi cynllun penodol o ba fath bynnag a fydd yn addas i wella’r broblem .
Astudiaethau Dichonoldeb
Mae’r rhain yn cynnwys materion mwy petrus lle rydym yn cynllunio ar gyfer y dyfodol ac yn bwriadu osgoi unrhyw broblemau rhwydwaith posibl. Gall yr astudiaethau hyn olygu archwilio darn o’r rhwydwaith neu ardal.
Isadeiledd Beicio
Cynlluniau i ddarparu llwybrau didraffig yn cael eu defnyddio ar y cyd yn agos i’r Rhwydwaith Cefnffyrdd i gysylltu pentrefi a threfi.

Cyfalaf Goleuo, Cysylltiadau a Signalau
Gweithiau cyfalaf newydd a fwriedir i ychwanegu at yr isadeiledd presennol a chynnwys darparu offer newydd.

Gwneud Gwell Defnydd
Rhaglen o welliannau i’r cyfleusterau presennol er mwyn gwella defnyddio’r rhwydwaith ffyrdd. Mae cynlluniau nodweddiadol yn cynnwys gosod arwyddion yn cynnwys negeseuon a phictogramau amrywiol a gosod cynllun Digwyddiad ar y Draffordd a Gosod Signal Awtomatig (MIDAS)

Mesurau Gwrthsefyll Sgidio
Cynlluniau adnewyddu’r ffyrdd a fwriedir i gynnal lefelau uchel o wrthsefyll sgidio

Lleihau Sŵn
Cynlluniau a fwriedir i leddfu effeithiau sŵn traffig trwy gyflwyno arwynebedd sŵn isel neu rwystrau sŵn neu gyfuniad o’r ddau

Gwrthgloddiau Adferol
Cynlluniau yw’r rhain lle mae problem ar hyn o bryd ynghylch gwrthgloddiau. Gall gwaith adfer gynnwys sefydlogi pridd, ffensio o amgylch creigiau, cyfnerthu gwrthgloddiau.
Cynlluniau Diogelwch Lleol
Cynlluniau gwella diogelwch yw’r rhain a weithredir mewn lleoliadau lle bu nifer o ddamweiniau dros gyfnod o 3 blynedd ar hyd y Rhwydwaith Cefnffyrdd. Mae’r lleoliadau’n cael eu monitro ar ôl eu gwella er mwyn asesu’r sefyllfa ddamweiniau bresennol. Mae astudiaethau newydd sy’n cynnwys llwybrau yn hytrach na lleoliadau’n cael eu cyflwyno.

Mân Gynlluniau
Nodir y rhain yn ôl eu math yn hytrach na chost ond wrth natur maent yn debygol o fod o werth cymharol isel. Gallai cynlluniau gynnwys Tawelu Traffig, Darparu Llwybrau Troed, Llecynnau i Gerddwyr, Darparu Ffosydd Draenio a Ffensio ar gyfer Diogelwch.

Cynlluniau Cymunedol
Bwriedir y cynlluniau hyn ar gyfer lleihau damweiniau, lleihau cyflymder a gwella ansawdd bywyd ar gyfer trigolion pentrefi a threfgorddau gwledig y mae cefnffordd yn mynd drwyddynt.

Gwaith Cynnal a Chadw Mawr
Gweithiau adnewyddu yw’r rhain a gynllunnir i adfer cyflwr gwreiddiol y ffordd. Cynlluniau gyda chost o tua £250,000 neu fwy yw gweithiau cynnal a chadw mawr.

Rhaglen y Pontydd
Mae’r rhaglen hon yn cynnwys asesu, cryfhau, monitro ac uwchraddio’r strwythurau presennol. Mae’r gweithiau uwchraddio’n cynnwys uwchraddio parapetau, diogelu rhag cyrydiad, gwaith diddosi gwrth-ddŵr ar bontydd, ayyb.

Rhaglen y Pontydd
Mae’r rhaglen hon yn cynnwys asesu, cryfhau, monitro ac uwchraddio’r strwythurau presennol. Mae’r gweithiau uwchraddio’n cynnwys uwchraddio parapetau, diogelu rhag cyrydiad, gwaith diddosi gwrth-ddŵr ar bontydd, ayyb.

Gwaith Cyfalaf ar Bontydd
Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys cynnal a chadw rhannau o’r pontydd ym mherchnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r gweithiau hyn yn rhan o’r rhaglen o weithiau parhaus sy’n cynnwys ailosod cydrannau fel uniadau neu ferynnau a thrin arwynebeddau concrit a dur yn rheolaidd.

Cynlluniau Uwchraddio
Cynlluniau yw’r rhain a fwriedir i wella rhannau israddol o gefnffyrdd trwy uwchraddio eu nodweddion (h.y. aliniad, gwelededd, graddiant ayyb) i safonau cyfredol.

Adnewyddu goleuadau
Ceir y cynlluniau hyn lle bwriedir uwchraddio goleuadau stryd ar rwydwaith y traffyrdd a’r cefnffyrdd i’r safonau cyfredol gan sicrhau rhaglen gyfredol ar gyfer parhau i achredu â’r Sefydliad Ynni.

Rhaglen Ymlaen
Cynlluniau mawr yw’r rhain y rhagwelir y byddant yn costio mwy na £1miliwn. Nodwyd y rhain yn Rhaglen Ymlaen 2002 Llywodraeth Cynulliad Cymru ac fe’u seilir ar welliannau tymor byr a thymor hir gyda llwybrau strategol Cymru.
Dolenni Cysylltiedig
