Chwefror 2011
Gwaith ar Rwystr Concrit Trosbont Christchurch i Dwneli Brynglas M4

Bydd gwaith yn dechrau ar 29 Ionawr 2011 ac yn para tua 4 mis, ar gynllun gwerth £2.4m i barhau i wella'r rhwystrau diogelwch a'r goleuadau stryd ar lain ganol traffordd M4 rhwng Trosbont Christchurch a Thwneli Brynglas. Bydd hyd y rhwystr newydd tua 3km a bydd 102 colofn oleuo newydd yn cael eu gosod yn unol â'r safonau cyfredol ar gyfer dylunio a goleuo. Mae'r cynllun hwn yn ddilyniant i'r rhwystrau concrit a adeiladwyd yn ddiweddar yn y llain ganol yn yr ardal rhwng Cyffyrdd 24 a 28 traffordd M4.
Y cynllun hwn yw cam olaf gwaith adnewyddu'r rhwystr concrit yn yr ardal, a cyflawni'r gwaith hwn ar yr un pryd â'r cynllun rhwystr concrit rhwng Cyffyrdd 27 a 28. Mae'r gwaith rhwng Cyffyrdd 27 a 28 wedi cael ei rwystro gan dywydd oer ac eira yn ddiweddar, ond mae'r contractwr yn gweithio oriau ychwanegol i fodloni'r dyddiad cwblhau yng nghanol mis Chwefror 2011.
Mae'r gwaith yn digwydd oherwydd oed a chyflwr presennol rhwystrau diogelwch a cholofnau goleuadau'r llain ganol. Bydd y rhwystr concrit newydd yn bodloni gofynion diogelwch ychwanegol y safonau cyfredol.
Bydd cyfyngiad cyflymder gorfodol o 50 mya oherwydd cyflwr rhwystr diogelwch y llain ganol yn parhau, ac at ddibenion diogelwch, i weithredu yn ystod y gwaith. Ar ôl cwblhau'r cynllun, adolygir y cyfyngiad cyflymder gorfodol o 50 mya, a bydd y cyfyngiad cyflymder amrywiol a luniwyd yn ddiweddar yn dechrau gweithredu.
Bydd Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru yn rheoli'r gwaith fel asiant i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Y prif gontractwr fydd Alun Griffiths Contractors Cyf, a Capita Symonds, fel y Peirianwyr Ymgynghorol, fydd yn goruchwylio'r gwaith.
Mae hon yn rhan brysur o'r draffordd a disgwylir y bydd peth anghyfleustra i ddefnyddwyr y ffordd tra bod y gwaith yn mynd yn ei flaen. Bydd cynlluniau rheoli traffig mewn grym i amddiffyn y gweithlu modurwyr, ac i reoli llif traffig, a gwneir pob ymdrech i leihau anghyfleustra i breswylwyr, busnesau a holl ddefnyddwyr y ffordd.
Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch, ffoniwch Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru ar 01792 325 900 neu e-bostiwch: enquiries@southwales-tra.gov.uk.

