11 Ionawr 2010
Gwaith i wella diogelwch ar draffordd yr M4 i ddechrau?r wythnos hon

Bydd gwaith yn dechrau?r wythnos hon ar gynllun £1 miliwn i wella?r rhwystrau diogelwch a?r goleuadau stryd a lain ganol traffordd yr M4 rhwng Cyffordd 24 Y Coldra a throsbont Christchurch Hill.
Mae?r cynllun hwn yn barhad o?r rhaglen waith i adnewyddu?r rhwystr concrîd ar y llain ganol yn ardal Casnewydd rhwng Cyffordd 24 a 28 traffordd yr M4, a bydd yn parhau am oddeutu 12 wythnos.
Bydd y rhwystr newydd yn oddeutu 1.5km o hyd, a bydd 50 o golofnau goleuadau newydd yn cael eu gosod, i gyd-fynd â safonau cynllunio a goleuo cyfredol.
Mae?r gwaith yn angenrheidiol oherwydd oedran a chyflwr y rhwystrau diogelwch presennol, a?r colofnau goleuadau ar y llain ganol. Bydd y rhwystr concrîd newydd yn bodloni gofynion diogelwch ychwanegol y safonau cyfredol.
Bydd Asiantaeth Priffyrdd De Cymru yn rheoli?r gwaith fel Asiant i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Y prif gontractwr fydd Alun Griffiths Contractors Limited, a Capita Symonds, fel Peiriannydd Ymgynghorol, fydd yn goruchwylio?r gwaith.
Mae hon yn rhan brysur o?r draffordd, ac mae?n debygol y bydd yn tarfu rhwyfaint ar ddefnyddwyr y ffyrdd wrth i?r gwaith fynd yn ei flaen. Bydd systemau rheoli traffig yn cael eu defnyddio i ddiogelu?r gweithlu, y modurwyr, ac i reoli llif y traffig, a bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i leihau anghyfelustra i ddefnyddwyr y ffyrdd, busnesau a phreswylwyr.
Bydd pob lôn draffig ar agor yn ystod adegau prysur, gyda?r lonydd yn cael eu cau yn ystod y nos yn unig.
Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch, ffoniwch Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru ar 01792 325 900 neu e-bostiwch: enquiries@southwales-tra.gov.uk.

