8 Ionawr 2010
Gwellianau diogelwch ar y bont dros yr Afon Wysg

Bydd gwaith ar bont yr M4 dros yr Afon Wysg yn dechrau ddydd Sul 10 Ionawr 2010 a bydd yn para 6 wythnos. Dylai?r gwaith fod wedi?i gwblhau erbyn 22 Chwefror 2010, ond mae rhai agweddau arno yn dibynnu ar y tywydd.
Mae?r bont dros yr Afon Wysg yn sefyll i?r dwyrain o Dwneli Brynglas ac mae?n rhan o Draffordd yr M4 sy?n ffordd hollbwysig i?r traffig sy?n cefnogi busnesau?r De ac economi Cymru. Bydd y gwaith yn cynnwys:
- Adnewyddu?r cymalau ehangu. Yn ystod y gwaith, bydd y cymalau ehangu ar golfachau?r bont yn cael eu hadnewyddu
- Gwella ac adnewyddu?r system ddraenio
Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru, fel yr Asiant i Lywodraeth y Cynulliad, fydd yn rheoli?r gwaith hwn. Alun Griffiths Contractors Limited fydd y prif gontractwr a Capita Symonds, y Peirianwyr Ymgynghorol, fydd yn goruchwylio?r gwaith.
Mae?r rhan hon o?r draffordd yn brysur ac mae?n debygol y bydd y gwaith yn peri rhywfaint o anhwylustod i deithwyr. Bydd systemau rheoli traffig yn cael eu gosod i ddiogelu?r gweithlu a modurwyr, ac i reoli llif y traffig. Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o anhwylustod yn cael ei beri i deithwyr, busnesau a thrigolion lleol.
Bydd yr holl lonydd ar agor yn ystod yr adegau prysur, a dim ond yn ystod y nos y bydd lonydd ar gau.
Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch, ffoniwch Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru ar 01792 325 900 neu e-bostiwch: enquiries@southwales-tra.gov.uk.

