South Wales Trunk Road Agency

skip nav

20 Gorffennaf 2009

Gwelliannau i Gyffordd 24 y Coldra ar yr M4

Mae'n bleser gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddi y bydd gwaith ar y cynllun gwella Cyffordd 24 y Coldra ar yr M4 wedi'i gwblhau yn sylweddol erbyn diwedd mis Gorffennaf. Er y bydd gwaith gorffen yn parhau yn yr ardal, bydd yr heol yn agor ar ei newydd wedd yr wythnos hon, gan ddarparu llwybr newydd i drafnidiaeth rhwng yr A449 a'r slipffordd sy'n rhoi mynediad i'r M4 tua'r gorllewin drwy'r ynys ganolog. Ar ben hyn, gwnaed newidiadau i heol A449 tuag at gylchfan y Coldra o'r gogledd a man newidiadau i ben dwyreiniol y slipffordd sy'n rhoi mynediad i'r M4 tua'r gorllewin. Rhagwelir y bydd gwelliannau sylweddol i lif traffig y gyfnewidfa bwysig hon pan fydd y trefniadau newydd yn eu lle.

Gwnaed y gwaith ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru gyda chymorth Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru a fu'n rheoli a chydlynu'r cynllun. Y prif gontractwr ar gyfer y gwaith  yw Alun Griffiths Contractors Ltd, a dyluniwyd y gwaith gan Capita Symonds a fu'n gyfrifol am reolaeth prosiect y cynllun.

Y Coldra yw un o'r pyrth pwysicaf i ddinas Casnewydd, ac mae tirlunio yn rhan bwysig o’r cynllun gwella. Ymgynghorwyd â Newport Unlimited i sicrhau bod y tirlunio’n gydnaws â’u cynigion ar gyfer pyrth eraill y ddinas. Bydd gwaith i orffen yr ardaloedd hyn yn parhau tua diwedd y flwyddyn ond, yn ystod misoedd yr hydref, bydd mwy na 5000 o blanhigion newydd i'w gweld, gan gynnwys coed, llwyni a phlanhigion gorchudd tir.

Fel rhan o'r gwaith, codwyd gantri newydd ar lôn gerbyd yr A449. Yn ogystal â chynnal yr arwyddion angenrheidiol, mae'n darparu croesfan ar gyfer pathewod, i gysylltu'r cynefinoedd naturiol yn yr ardal. Mae'n debyg mai hon yw'r groesfan gyntaf o'i bath yng Nghymru ac yn y DU.

Mae hon yn rhan brysur o rwydwaith y cefnffyrdd ac roedd yn anochel y byddai'r gwaith yn amharu ar ddefnyddwyr yr heol i ryw raddau.  Hoffai Llywodraeth Cynulliad Cymru ymddiheuro i bobl sydd wedi dioddef oedi a diolch iddynt am eu hamynedd.  Er hynny, dylai'r gwaith fod o les i ddefnyddwyr yr heol, busnesau lleol a thrigolion, unwaith mae wedi ei gwblhau.

Mae mwy o wybodaeth ar gael o Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru drwy ffonio 01792 325 900 neu e-bostio enquiries@southwales-tra.gov.uk.

Rhowch wybod am Ddigwyddiad

Rhowch wybod i ni am falurion neu geudyllau ar:

0845 602 6020

Traffic Image

Y Diweddaraf am y Traffig


yn Nhrafnidiaeth Cymru


Swyddogion Traffig De Cymru

Gwasanaeth Swyddogion Traffig Llywodraeth Cynulliad Cymru


Gwybodaeth am Swyddi Gwag

Cliciwch yma i adael adborth

Download Flash Player