South Wales Trunk Road Agency

skip nav

1 Gorffennaf 2009

Cyffordd 26 yr M4 Malpas i Gyffordd 27 Highcross - Atalfa Slipfowldin Goncrid

Atalfa Slipfowldin Goncrid

Bydd gwaith yn dechrau'r wythnos hon am oddeutu 9 wythnos ar gynllun gwerth £1.1m i barhau â'r gwelliannau i'r atalfeydd diogelwch a'r goleuadau yn y llain ganol ar gyffordd yr M4 rhwng Cyffordd 26 Malpas a Chyffordd 27 Highcross. Bydd hyd yr atalfa newydd tua 1.3km a bydd 44 colofn oleuo newydd yn cael eu gosod yn unol â'r safonau cyfredol ar gyfer dylunio a goleuo. Mae'r cynllun hwn yn estyn yr atalfa slipfowldin goncrid a adeiladwyd yn ddiweddar ar Gyffordd 26 ac mae'n parhau â'r rhaglen o osod atalfa slipfowldin goncrid newydd ar lain ganol traffordd yr M4 yn ardal Casnewydd rhwng Cyffyrdd 24 a 28.

Mae'r gwaith yn digwydd oherwydd oed a chyflwr presennol atalfeydd diogelwch a cholofnau goleuadau'r llain ganol. Bydd yr atalfa goncrid newydd yn bodloni gofynion diogelwch ychwanegol y safonau cyfredol.

Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru fydd yn rheoli'r gwaith fel asiantau i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Y prif gontractwr fydd Alun Griffiths Contractors Cyf, a Capita Symonds, fel y Peirianwyr Ymgynghorol, fydd yn goruchwylio'r gwaith.

Mae hon yn rhan brysur o'r gyffordd a disgwylir y bydd peth anhwylustod i ddefnyddwyr y ffordd tra bod y gwaith yn mynd yn ei flaen. Bydd cynlluniau rheoli traffig mewn grym i amddiffyn y gweithlu a rheoli llif traffig, a gwneir pob ymdrech i leihau anghyfleustra i breswylwyr, busnesau a holl ddefnyddwyr y ffordd.

Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch, gallwch ffonio Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru ar 01792 325 900 neu e-bostio enquiries@southwales-tra.gov.uk.

Rhowch wybod am Ddigwyddiad

Rhowch wybod i ni am falurion neu geudyllau ar:

0845 602 6020

Traffic Image

Y Diweddaraf am y Traffig


yn Nhrafnidiaeth Cymru


Swyddogion Traffig De Cymru

Gwasanaeth Swyddogion Traffig Llywodraeth Cynulliad Cymru


Gwybodaeth am Swyddi Gwag

Cliciwch yma i adael adborth

Download Flash Player