South Wales Trunk Road Agency

skip nav

Mehefin 2009

Datganiad i'r Wasg - Pont Afon Ebwy

Ebbw River Bridge Press Notice

Dechreuodd pecyn o waith ar gyfer Pont Afon Ebwy yr M4 ddydd Llun 22 Mehefin 2009 a fydd yn para 3 wythnos.. Y bwriad yw y bydd y gwaith yn cymryd tair wythnos i'w gwblhau, sef erbyn 13 Gorffennaf 2009. Serch hynny, mae rhai agweddau arno'n dibynnu ar y tywydd.

Mae Pont Afon Ebwy i'r dwyrain o Gyffordd 28 ac yn rhan o draffordd yr M4, sef ffordd bwysig i'r De i drafnidiaeth sy'n cefnogi busnesau lleol ac economi Cymru. Bydd y gwaith yn cynnwys y canlynol:

  • Sicrhau bod y dec i'r dwyrain yn ddiogel rhag dwr. I wneud hyn bydd yn rhaid tynnu arwyneb y ffordd at adeiladwaith y bont, er mwyn ei drwsio a'i wneud yn ddiogel rhag dwr. Mae angen gwneud y gwaith hwn i ddiogelu'r adeiladwaith concrit rhag cael ei ddifrodi gan yr halen sy'n cael ei roi ar y ffordd.
  • Adnewyddu'r cymalau ehangu. Fel rhan o'r gwaith diogelu rhag dwr, bydd y cymalau ehangu wrth y colfachau ar yr adeiladwaith yn cael eu tynnu i ffwrdd, a bydd rhai newydd yn cael eu gosod yn eu lle.
  • Bydd system ddraenio newydd yn cael ei gosod. Gan y bydd gwaith yn cael ei wneud a llif y traffig yn cael ei rheoli, bydd system ddraenio newydd yn cael ei gosod ar yr adeiladwaith i helpu i leihau problemau draenio yn yr ardal yn y dyfodol.

Cyn dechrau ar y gwaith, mae mannau croesi i'r gwrthlif wedi'u chreu i helpu gyda'r trefniadau rheoli traffig yn ystod y gwaith.

Alun Griffiths, Contractors Ltd, yw'r prif gontractwr ar gyfer y gwaith, a Capita Symonds yw'r Peiriannydd Ymgynghorol.

Mae hon yn rhan brysur o'r rhwydwaith, ac yn anffodus, gyda'r math hwn o waith, mae'n siwr y bydd rhywfaint o anghyfleustra i'r rhai sy'n defnyddio'r ffordd pan fydd y gwaith yn mynd yn ei flaen. Bydd system rheoli traffig ar waith er mwyn diogelu'r gweithwyr a rheoli'r llif, ond bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o anghyfleustra yn cael ei achosi i bobl yr ardal, busnesau lleol a defnyddwyr y ffordd.

Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch, ffoniwch Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru ar 01792 325 900 neu e-bostiwch: enquiries@southwales-tra.gov.uk.

Rhowch wybod am Ddigwyddiad

Rhowch wybod i ni am falurion neu geudyllau ar:

0845 602 6020

Traffic Image

Y Diweddaraf am y Traffig


yn Nhrafnidiaeth Cymru


Swyddogion Traffig De Cymru

Gwasanaeth Swyddogion Traffig Llywodraeth Cynulliad Cymru


Gwybodaeth am Swyddi Gwag

Cliciwch yma i adael adborth

Download Flash Player