Datganiad i’r Wasg
STRYD RHOSMAEN, LLANDEILO
GWAITH STRYD ARFAETHEDIG
OND BUSNES FEL ARFER
Mae gwaith stryd sylweddol ar y gweill ar gyfer canol tref Llandeilo, a fydd yn golygu cau ffordd a gosod gwyriadau dros dro ar gyfer traffig.
Bydd Western Power Distribution (WPD) yn cyflawni’r gwaith hanfodol i'w isadeiledd trydanol, drwy osod a chysylltu prif wifrau trydan a chysylltiadau gwasanaeth er mwyn galluogi parhad gwasanaeth i'w gwsmeriaid.
Mae Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) fel Asiantau dros Lywodraeth Cynulliad Cymru, sy'n cynrychioli'r Awdurdod Priffyrdd, wedi bod yn cysylltu â'r holl bartïon sydd â diddordeb i ddarparu ymagwedd gydlynol tuag at y prosiect hwn fel y gall unrhyw waith arfaethedig arall ddod ymlaen a chael ei gyflawni yn ystod yr un cyfnod tra bod yr heol ar gau.
Yn ystod pedair wythnos y prosiect bydd Dŵr Cymru yn ymgymryd â gwaith adnewyddu prif bibell ddŵr wrth i’r traffig gael ei reoli gan WPD, ac fe fydd gwaith adnewyddu adeiladau unigol sy'n golygu defnyddio sgaffaldiau yn digwydd yr un pryd.
Ar yr un pryd, gwneir gwaith adnewyddu ar ran o'r ffordd a chaiff wyneb newydd ei osod er mwyn adfer cadernid wyneb y ffordd.
Bydd y ffordd yn cau ddydd Llun 7 Ebrill 2008 ac yn parhau ar gau tan ddydd Sul 4 Mai 2008, yn dibynnu ar amodau tywydd. Caiff arwyddion gwyriadau eu codi mewn lleoliadau perthnasol er mwyn helpu'r cyhoedd sy'n teithio a gosodir arwyddion gwybodaeth yn strategol er mwyn rhoi gwybod i yrwyr HGV bod yr A438 ar gau yn Llandeilo.
Cydnabyddir y bydd y gwaith yn achosi peth aflonyddwch i'r dref ond o safbwynt positif, bydd Stryd Rhosmaen yn troi'n ardal sy'n rhannol ar gyfer cerddwyr gyda phob busnes ar agor fel arfer.
