South Wales Trunk Road Agent

skip nav

Datganiad i’r Wasg

Partneriaeth SWTRA Camau Gwella Ffyrdd

Mae Asiant Cefnffyrdd De Cymru(SWTRA) wedi cymryd camau i wella'r ffordd mae'n cynnal ac yn cadw 600km o draffyrdd a chefnffyrdd Llywodraeth Cynulliad Cymru rhwng Pont Hafren ac Abergwaun. Bydd lansio Partneriaethau Cynnal a Chadw Rhanbarthol yn gwella'r gwasanaeth i gwsmeriaid a darparu effeithlonrwydd ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae SWTRA, a reolir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, yn un o dair asiantaeth sydd wedi cael contract gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i reoli rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru. Ers 2006 bu'n gweithio gydag awdurdodau lleol ledled De a Gorllewin Cymru, ynghyd â nifer o gontractwyr ac ymgynghorwyr y sector preifat. Bydd cyflwyno'r partneriaethau, sy'n cael eu gweinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Bwrdeistref Sirol Sir Gaerfyrddin, yn adeiladu ar lwyddiant y gorffennol.

Bydd y partneriaethau hyn yn gyfrifol am gynnal a chadw rhwystrau diogelwch, adeiledd, draeniad a goleuadau. Byddant hefyd yn darparu gwasanaethau fel torri'r glaswellt, casglu sbwriel, glanhau arwyddion a chwilio am falurion. Byddant yn sicrhau gwasanaeth cyson a chydgysylltiedig ar hyd rhwydwaith y cefnffyrdd.

Esboniodd Richard Jones, Pennaeth SWTRA,

"Mae'r tri awdurdod arweiniol wedi penodi un rheolwr partneriaeth, gyda chefnogaeth goruchwyliwr a staff cefnogol i weithio mewn partneriaethau ag awdurdodau cyffiniol. Bydd yr ymagwedd newydd hon yn gwella cyfathrebu rhwng yr Asiantaeth a'r darparwyr gan alluogi pawb i ymateb yn fwy effeithiol i achosion brys, yn enwedig ar y rhannau o'r rhwydwaith sy'n hynod brysur yn yr oriau brig.

Trwy gyfathrebu'n well, cydlynu adnoddau ymateb a rheoli gweithgareddau'n well ar draws y rhwydwaith, byddwn yn gwella'r ymateb brys a gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf. Dylai'r dull newydd hwn o weithio olygu na fydd angen cau cymaint o lonydd ar gyfer gwaith cynnal a chadw ffyrdd.

Bydd y partneriaethau newydd hefyd yn galluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i gymharu a gwerthuso'r gwasanaethau a ddarperir gan SWTRA a rhagweld costau pob prosiect yn fwy cywir.

Yn ôl arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Ali Thomas, nod cyffredinol y bartneriaeth yw manteisio ar gryfderau a gwybodaeth leol pob awdurdod unigol er mwyn rheoli cefnffyrdd a thraffyrdd De Cymru yn effeithiol.

Meddai'r Cynghorydd Thomas, "Mae pob cyngor yn croesawu'r fenter hon gan fod y ffyrdd hyn yn rhan hanfodol o gynnal ac adfywio economi eu cymunedau lleol."

Partneriaid

Yn y llun mae'r partneriaid,

Y Cynghorydd Ali Thomas, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Y Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy
Y Cynghorydd Jamie Adams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Benfro
Richard Workman, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Technegol Cyngor Sir Gaerfyrddin
Richard Jones, Pennaeth Asiant Cefnffyrdd De Cymru
Ian Davies, Pennaeth Gweithrediadau Rhwydwaith, Llywodraeth Cynulliad Cymru

Rhowch wybod am Ddigwyddiad

Rhowch wybod i ni am falurion neu geudyllau ar:

0845 602 6020

Traffic Image

Y Diweddaraf am y Traffig


yn Nhrafnidiaeth Cymru


Swyddogion Traffig De Cymru

Gwasanaeth Swyddogion Traffig Llywodraeth Cynulliad Cymru


Gwybodaeth am Swyddi Gwag


Cliciwch yma i adael adborth

Download Flash Player