South Wales Trunk Road Agency

skip nav

Dydd Gwener, 17 Ebrill 2009

Clirio Sbwriel SWTRA

Gyda'r tywydd yn nodi tymor newydd, mae SWTRA wedi dechrau clirio priffyrdd a chefnffyrdd yn ne Cymru.

Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) ddyletswydd i gael gwared ar sbwriel o ymylon traffyrdd, argloddiau ac ardaloedd sy'n anodd eu cyrraedd yn ddiogel, fel lleiniau canol.

Mae sbwriel yn effeithio ar holl rwydwaith y cefnffyrdd, o Bontydd Hafren i Abergwaun, a reolir gan Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA). Fodd bynnag, mae slipffyrdd traffyrdd yn aml yn dioddef yn fwy na heolydd eraill oherwydd gyrwyr yn arafu neu'n aros i daflu pecynnau bwyd cyflym, pecynnau creision, calonnau afalau a photeli sudd o'u ceir.

I gydymffurfio â gofynion y Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd a Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, cynhelir ymgyrchoedd casglu sbwriel ar yr ymylon a'r argloddiau ddwywaith y flwyddyn, gan gostio dros £500,000, gan gynnwys casgliadau sbwriel bob mis ar bob slipffordd fel rhan o raglen SWTRA o gynnal a chadw priffyrdd yn rheolaidd.

Eleni, bydd gwaith cynnal a chadw blynyddol y priffyrdd yn dechrau ddydd Llun, 20 Ebrill, a bydd yn parhau am chwech wythnos.
 
Yn ogystal, mae'r gwaith o lanhau rhai arwyddion ffyrdd dethol eisoes wedi dechrau. Bydd y gweithrediadau hyn hefyd yn gorgyffwrdd â dechrau torri'r gwair ar ymylon y rhwydwaith ffyrdd. 

Dywedodd Richard Jones, pennaeth SWTRA, y gellir casglu amrywiaeth eang o eitemau wrth gynnal a chadw'r priffyrdd.

Meddai, "Gall y rhain gynnwys teiars wedi treulio, ffonau symudol, hen setiau teledu, celfi, oergelloedd, a thoriadau coed yn aml ar yr adeg hon o'r flwyddyn, a'r cyfan wedi cael eu canfod, fel arfer mewn ardaloedd lle mae ffens ffin y draffordd yn ymestyn yn ôl tuag at ardaloedd preswyl.

"Mewn blwyddyn, mae'r asiantaeth yn amcangyfrif y cesglir 8,500 bag o sbwriel ar y draffordd."

Atgoffir modurwyr bod sbwriel yn difwyno ein priffyrdd, ac ar ben hynny'n drosedd, a gall roi straen ariannol ar asiantaethau sydd â'r dasg o'i glirio.

"Gyda swm y traffig ar rannau o'r M4 dros 100,000, gall swm y sbwriel gynyddu'n gyflym," ychwanegodd Mr Jones.  "Mae sbwriel yn hyll, ac ar ben hynny gall fod yn beryglus os caiff ei chwythu o flaen cerbydau, a gall niweidio bywyd gwyllt."

Yn ogystal â'r ddwy ymgyrch casglu sbwriel flynyddol, mae SWTRA hefyd yn cynnal archwiliad diogelwch dyddiol ar bob un o'i briffyrdd.  Os nodir problem, lle mae sbwriel yn creu perygl penodol i ddiogelwch, gwneir casgliad sbwriel ychwanegol.

Meddai Mr Jones, "Fodd bynnag, mae gallu'r asiantaeth i ymateb i'r achosion unigol hyn o sbwriel yn dibynnu ar arian digonol yng nghyllideb cynnal a chadw'r draffordd.

"Anogir modurwyr i gadw'u sbwriel yn y car nes iddynt allu cael gwared arno mewn bin."

NODYN I OLYGYDDION

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Emma Gray ar 01639 763359

Rhowch wybod am Ddigwyddiad

Rhowch wybod i ni am falurion neu geudyllau ar:

0845 602 6020

Traffic Image

Y Diweddaraf am y Traffig


yn Nhrafnidiaeth Cymru


Swyddogion Traffig De Cymru

Gwasanaeth Swyddogion Traffig Llywodraeth Cynulliad Cymru


Gwybodaeth am Swyddi Gwag

Cliciwch yma i adael adborth

Download Flash Player