South Wales Trunk Road Agency

skip nav

Datganiad i’r Wasg

Cyfyngiadau newydd ar gyflymder ar yr M4 rhwng Cyffordd 24 (Coldra) a Chyffordd 28 (Parc Tredegar)

Bydd cyfyngiadau newydd ar gyflymder yn cael eu cyflwyno i wella diogelwch a llif y traffig ar yr M4 rhwng cyffordd 24 (Clodra) a chyffordd 28 (Parc Tredegar). Byddan nhw’n yn dod i rym ddydd Llun, 5 Ebrill.

Bydd y cyfyngiad newydd mewn grym tan y flwyddyn nesaf pan fydd system amrywio cyflymder yn cael ei gosod.

Bydd arwyddion i rybuddio modurwyr am y cyfyngiad newydd i’w gweld cyn i’r cyfyngiadau ddod i rym. O haf 2010 ymlaen, bydd y cyfyngiad yn cael ei amrywio trwy arwyddion electronig uwch ben y draffordd. Bydd y rhain yn rheoli’r traffig yn ôl yr amodau gyrru.

Mae angen cyfyngiad cyflymder er mwyn gwella diogelwch modurwyr a llif y traffig yn wyneb y tagfeydd, y gwaith o roi rhwystr diogelwch newydd ar y llain ganol, a’r gwelliannau i’r draffordd rhwng cyffordd 29 a chyffordd 30.

Ni fydd cymaint o’r ffordd o dan y cyfyngiad cyflymder newydd ar ôl i’r gwelliannau gael eu cwblhau, sef erbyn Rhagfyr 2009.

Mae’r gwaith o roi rhwystr concrit yn lle’r ffens diogelwch dur ar y llain ganol wedi dechrau. Bydd y rhwystr newydd yn unol â’r safonau presennol. Dim ond y nesaf beth i ddim o waith cynnal a chadw sydd i’w wneud ar rwystrau concrit, ac maen nhw’n well am atal cerbydau mawr rhag croesi i’r lonydd traffig yr ochr arall. Mae’r fath hon o ddamwain ddifrifol, sydd hefyd yn achosi oedi mawr, yn digwydd yn amlach y dyddiau hyn.

Ar ôl gorffen adeiladu’r rhwystr, bydd yn bosibl cyflwyno’r cyfyngiad cyflymder cenedlaethol unwaith eto.

Hoffai Llywodraeth Cynulliad Cymru bwysleisio bod y cyfyngiad 50 milltir yr awr yn hanfodol i ddiogelwch modurwyr, a hoffai ddiolch iddynt ymlaen llaw am eu cydweithrediad.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru ar 01792 325900 neu enquiries@southwales-tra.gov.uk

Rhowch wybod am Ddigwyddiad

Rhowch wybod i ni am falurion neu geudyllau ar:

0845 602 6020

Traffic Image

Y Diweddaraf am y Traffig


yn Nhrafnidiaeth Cymru


Swyddogion Traffig De Cymru

Gwasanaeth Swyddogion Traffig Llywodraeth Cynulliad Cymru


Gwybodaeth am Swyddi Gwag

Cliciwch yma i adael adborth

Download Flash Player