Archif y Wasg
24 Tachwedd 2008 - TRA4076, CROESFFORDD STEYNTON
Mae gwaith cynnal a chadw sylweddol, sy'n cynnwys gosod arwyddion MOVA (Microprocessor Optimised Vehicle Actuation) ar groesffyrdd Steynton, wedi'i drefnu i ddechrau ddydd Llun 24 Tachwedd 2008. Y prif gontractwr fydd Tarmac Limited, a bydd Cyngor Sir Penfro yn goruchwylio'r gwaith fel Peiriannydd Ymgynghorol. Cynhelir y gwaith ar ran Asiant Cefnffyrdd De Cymrusy'n gweithredu fel asiant i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae hon yn gyffordd brysur ar ran o'r briffordd drefol sy'n cynnwys traffig trwm. Yn anffodus, gyda'r math hwn o waith, bydd rhywfaint o aflonyddwch yn anochel i ddefnyddwyr ffyrdd wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Bydd dulliau rheoli traffig yn eu lle i amddiffyn y gweithlu a rheoli llif traffig, a gwneir pob ymdrech i leihau anghyfleuster i breswylwyr a holl ddefnyddwyr y ffordd.
Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch, gallwch ffonio Asiant Cefnffyrdd De Cymruar 01792 325 900 neu e-bostio enquiries@southwales-tra.gov.uk.

