South Wales Trunk Road Agent

skip nav

Archif y Wasg

Gwelliannau i gyffordd 24 Coldra

Bydd y gwaith yn dechrau yr wythnos hon ar gynllun £4.1 miliwn i wella llif traffig o amgylch cylchfan Coldra ar yr A449 a chyfnewidfa Cyffordd 24 ar yr M4. Mae Cylchfan Coldra yn gyffordd brysur iawn sy'n cysylltu nifer o ffyrdd strategol ar ochr ddwyreiniol Casnewydd. Mae nifer gynyddol o dagfeydd yn ddiweddar yn dilyn sawl datblygiad yng Nghasnewydd ac ar hyd yr M4 a'r A449. O ganlyniad, mae nifer y cerbydau sy'n defnyddio'r cylchdro yn rheolaidd bellach yn fwy na nifer y cerbydau a fwriadwyd ar gyfer y cylchdro yn y cynllun gwreiddiol.

Y gwelliant mwyaf arwyddocaol a thrawiadol fydd cyflwyno trefniant 'hamburger', a fydd yn darparu lôn newydd ar gyfer y traffig rhwng yr A449 a ffordd ymuno Orllewinol yr M4, trwy'r ynys ganolog. Bydd hyn, yn ogystal â newidiadau i ffordd ddynesu yr A449 i Gylchdro Coldra o'r Gogledd, a newidiadau bychain i ben dwyreiniol ffordd ymuno Orllewinol yr M4.

Yn ogystal ben dwyreiniol ffordd ymuno Orllewinol yr M4.

Yn ogystal â nifer o fesurau ychwanegol, mae disgwyl i'r trefniant newydd hwn wella llif y traffig yn sylweddol yn y gyfnewidfa brysur hon.

Mae'r Coldra yn borth o bwys i ddinas Casnewydd, ac mae'r tirlunio'n cael ei ystyried yn rhan bwysig o'r cynllun gwella. Ymgynghorwyd â Newport Unlimited i sicrhau bod y tirlunio'n gydnaws â'u cynigion ar gyfer pyrth eraill y ddinas.

Y prif gontractwyr ar gyfer y gwaith yw Alun Griffiths Contractors Limited, a bydd Capita Symonds, fel Peiriannydd Ymgynghorol, yn goruchwylio'r gwaith.

Mae hwn yn rhan prysur o'r rhwydwaith cefnffyrdd, ac mae'n debygol y bydd yn tarfu rhywfaint ar ddefnyddwyr y ffordd wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Bydd y traffig yn cael ei reoli i ddiogelu'r gweithlu, modurwyr, ac i reoli llif y traffig, a bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau cyn lleied â phosib o anghyfleuster i ddefnyddwyr y ffordd, busnesau a thrigolion lleol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Asiant Cefnffyrdd De CymruLlywodraeth Cynulliad Cymru ar 01792 325 900 neu trwy anfon e-bost at enquiries@southwales-tra.gov.uk.

Rhowch wybod am Ddigwyddiad

Rhowch wybod i ni am falurion neu geudyllau ar:

0845 602 6020

Traffic Image

Y Diweddaraf am y Traffig


yn Nhrafnidiaeth Cymru


Swyddogion Traffig De Cymru

Gwasanaeth Swyddogion Traffig Llywodraeth Cynulliad Cymru


Gwybodaeth am Swyddi Gwag


Cliciwch yma i adael adborth

Download Flash Player