Asedau Strwythurol
Mae asedau strwythurol y Cynulliad yn cynnwys y mathau canlynol o strwythurau:
- Pontydd
- Cylfatiau concrit
- Cylfatiau metel rhychog
- Tanffyrdd i gerddwyr neu wartheg
- Muriau cynnal
- Gantrioedd arwyddion
- Mastiau uchel ar gyfer goleuadau neu gamerâu.
Mae cofnodion cywir o strwythurau yn ffordd bwysig o reoli’r rhaglen o arolygiadau a nodi gwaith sy’n ofynnol neu sydd wedi’i wneud eisoes.

Mae’r Tîm Cyflwr Asedau yn gyfrifol am sefydlu a chynnal a chadw rhaglen arolygu’r holl strwythurau i sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffyrdd a nodi gwaith sy’n angenrheidiol i gadw’r strwythurau mewn cyflwr defnyddiol.
Mae’r math o arolygiadau a wneir yn cynnwys
- arolygiadau cyffredinol
- prif arolygiadau
- mân arolygiadau
- arolygiadau arbennig ac
- arolygiadau dan y dŵr.
Dadansoddir yr adroddiadau i asesu’r diffygion a ganfuwyd. Ychwanegir gweithiau adferol o natur reolaidd i raglen neu gynlluniau a geir ar gyfer gwaith cynnal a chadw neu wella mwy o faint.
Mae’r tîm yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl weithiau arfaethedig neu sydd wedi eu gwneud yn rhoi gwerth am arian yn nhermau cost bywyd cyfan.
