Hysbysiad Adran 58

Cyfyngiad ar waith stryd ar yr A483 Stryd Rhosmaen, Llandeilo.

 

Bwriedir creu cyfyngiad ar waith stryd yn dilyn gwaith ffordd sylweddol.

 

Yn unol â Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, Côd Ymarfer ar Gyd-drefnu Gwaith Stryd a Gwaith at Ddibenion Ffyrdd a Materion Cysylltiedig, Trydydd Argraffiad Gorffennaf 2007.

Dylai'r Ymgymerwyr Statudol hynny sy’n bwriadu gwneud gwaith yn ystod y pum mlynedd nesaf ystyried yr angen i gyflawni'r gwaith yn gynt ac ymateb i'r hysbysiad hwn o fewn 20 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad.

 

Dylai trigolion yr eiddo sy’n wynebu’r rhan o'r ffordd yr effeithir arni ar Stryd Rhosmaen ystyried yr angen am gysylltiadau gwasanaeth newydd neu well y byddai eu hangen efallai yn y dyfodol agos ac ymateb i'r hysbysiad hwn o fewn 20 niwrnod o ddyddiad yr hysbysiad hwn.

 

Os hoffech ymateb i'r hysbysiad hwn, cysylltwch â Roger Williams yn:

Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru,
Uned 12A, Tŷ Llandarcy,
Parc Busnes D’Arcy,
Llandarcy,
Castell-nedd SA10 6HJ
Rhif ffôn. 01792 325900.
E-bostl enquiries@southwales-tra.gov.uk