South Wales Trunk Road Agency

Sut rydyn ni’n gwneud Gwaith Cynnal a Chadw Rheolaidd

Y strategaeth ar gyfer gweithrediadau cynnal a chadw Rheolaidd yw sicrhau y cyflawnir amcanion Diogelwch y Rhwydwaith a Defnyddioldebedd y Rhwydwaith a Chynaliadwyedd y Rhwydwaith. Yr amcanion yw:

Diogelwch y Rhwydwaith

  • Cydymffurfio â’r ymrwymiadau statudol
  • Diwallu angen y defnyddwyr am ddiogelwch

Defnyddioldebedd y Rhwydwaith

  • Sicrhau argaeledd y rhwydwaith
  • Bod yn unplyg
  • Cynnal dibynadwyedd
  • Gwella cyflwr

Cynaliadwyedd y Rhwydwaith

  • Lleihau’r angen am waith cynnal a chadw drutach yn y dyfodol

Dyma’r mathau o weithgareddau a wneir i helpu i gyflawni amcanion y rhwydwaith:

  • Atgyweiriadau brys i’r ased ar ôl digwyddiadau a damweiniau
  • Cadw arwyddion a marciau’r ffordd mewn cyflwr da
  • Cynnal a chadw ffensiau’r ffiniau a rhai diogelwch
  • Clirio a chynnal a chadw systemau draenio
  • Clirio sbwriel a sgubo’r ffyrdd (traffyrdd yn unig - cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw’r ffyrdd eraill)
  • Torri porfa a llystyfiant yn ymyl cyffyrdd ac mewn tiriogaethau canolog i wella gwelededd
  • Cynnal a chadw signalau traffig, goleuadau stryd
  • Gwaith cynnal a chadw rheolaidd a glanhau twneli Bryn-glas a Gibraltar

 

South Wales Trunk Road Agency - Routine maintenance

Rhowch wybod am Ddigwyddiad

Rhowch wybod i ni am falurion neu geudyllau ar:

0845 602 6020

Traffic Image

Y Diweddaraf am y Traffig


yn Nhrafnidiaeth Cymru


Photo of a Road Steward

Diwrnod ym Mywyd:


Stiward y Ffyrdd