Ein Rolau a'n Cyfrifoldebau
Wedi'u Rheoli gan Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru, Swyddogion Traffig yw wyneb cyhoeddus Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y briffordd, yn ymateb i ddamweiniau ar rwydwaith Cymru, gan geisio lleihau amser ymateb ac felly lleihau effaith tagfeydd ar y rhwydwaith. Prif rôl y Swyddog Traffig fydd gwneud y man yn ddiogel cyn asesu gofynion ymateb eilaidd a briffio'r gwasanaethau brys lle bo angen.
Gyda'r pwer i stopio traffig a chau heolydd, lonydd a lonydd cerbydau, cyfarwyddo a dargyfeirio traffig a cherddwyr, gosod arwyddion traffig a symud cerbydau sydd wedi'u gadael neu sydd wedi torri i lawr, bydd Swyddogion Traffig yn chwarae rôl hanfodol yn niogelwch heolydd Cymru.
Fel eu swyddogion cyfatebol yn yr Asiantaeth Briffyrdd, gwaith Swyddogion Traffig yn Ne Cymru fydd hyrwyddo a meithrin perthnasoedd gwaith da gyda'r holl randdeiliaid allweddol i sicrhau cyflawni nodau cyffredin sy'n gysylltiedig â lleihau damweiniau sy'n ymwneud â thagfeydd.
Hefyd, disgwylir iddynt gynorthwyo wrth nodi lle gellir gwella neu atgyweirio'r isadeiledd heolydd, gan gynnwys wyneb ac arwyddion, lle bo angen, er mwyn cynyddu diogelwch defnyddwyr heolydd, ac anfon y fath wybodaeth yn syth ac yn gywir at y cysylltiadau perthnasol.

