Rôl Swyddog Traffig

Diben y Gwasanaeth Swyddogion Traffig yw ymgymryd â thasgau rheoli traffig a heolydd cyffredin gan roi mwy o amser i'r heddlu ganolbwyntio ar y gwasanaethau amddiffyn, megis mynd i'r afael â throseddau, ymchwilio i wrthdrawiadau a gorfodi'r gyfraith.
Mae Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cymru a Lloegr) wedi galluogi trosglwyddo rhai pwerau heddlu i Swyddogion Traffig.
Diben y pwerau hynny yw:
- stopio traffig a chau heolydd, lonydd a lonydd cerbydau;
- cyfarwyddo a dargyfeirio traffig a cherddwyr;
- gosod a gweithredu arwyddion traffig;
- rheoli traffig ger arolygon traffig. Mae'r rhain yn cynnwys stopio cerbydau a gofyn i yrwyr am eu teithiau. Mae'r wybodaeth o'r arolygon hyn yn cael ei defnyddio i ddatblygu a chynllunio buddsoddi yn y system drafnidiaeth yn y dyfodol;
- symud neu drefnu symud cerbydau sydd wedi'u gadael neu sydd wedi torri i lawr ac yn rhwystr neu'n berygl diogelwch ar y rhwydwaith; ac
- awdurdodi eithriadau a llacio'r rheoliadau traffordd i ddefnyddwyr heolydd eraill, megis defnyddio'r llain galed.
Nid oes pwerau gorfodi gan Swyddogion Traffig ac nid cerbydau brys yw eu cerbydau.
Rôl y Swyddog Traffig yw ymdrin â damweiniau arferol gan gynnwys Gwrthdrawiadau Traffig Ffyrdd (GTFf) nad ydynt yn cynnwys anafiadau ar y rhwydwaith ac i gynorthwyo'r gwasanaethau brys wrth ymdrin â rheoli traffig mewn damweiniau mwy difrifol. Er mwyn ymgymryd â'r dyletswyddau hyn, mae Swyddogion Traffig wedi cael caniatâd i ddefnyddio goleuadau rhybuddio coch ac ambr ers 2004. Cafodd hyn ei awdurdodi dan orchymyn arbennig Deddf Rheoli Traffig 1988, adran 44.
Nod cyflwyno'r fath wasanaeth fydd lleihau'r tarfu ar ddefnyddwyr heolydd trwy ddarparu ymateb diogel ac amserol i ddamweiniau er mwyn rheoli traffig, asesu gofynion ar y safle o ran clirio malurion a difrod/atgyweirio'r isadeiledd, cysylltu â'r gwasanaethau brys lle bo angen a lleihau tagfeydd cyn gynted ag y bo modd.
Bydd y Swyddogion Traffig yn darparu ymateb amserol i ddamweiniau ar y rhwydwaith ac yn cymryd y brif rôl wrth reoli'r traffig, clirio damweiniau a gweithgarwch arall nad yw'n droseddol.

