Ymateb i Ddigwyddiad
Canolfan Rheoli’r Rhwydwaith yw’r pwynt canolog sengl ar gyfer SWTRA, 24 awr y dydd, 7 dydd yr wythnos i ddelio â digwyddiadau / argyfyngau ar y rhwydwaith a hysbysir gan yr Heddlu. Rôl y tîm yw cydlynu ymateb darparwyr ein gwasanaeth wrth weithredu rheolaeth draffig a chlirio gweddillion ayyb ar ôl digwyddiad ar y rhwydwaith.

Mae Tîm Canolfan Rheoli’r Rhwydwaith yn delio â galwadau argyfwng a dderbynnir gan y 3 Awdurdod Heddlu yn Ne Cymru yn ystod oriau gwaith arferol a derbynnir galwadau allan o oriau gwaith ar ein rhan gan Weithredwyr Trafnidiaeth Cymru.
Mae Peirianyddion ar Ddyletswydd SWTRA ar alwad i roi cyngor i Drafnidiaeth Cymru a sicrhau bod Stiwardiaid y Ffyrdd ar gael i fynd i unrhyw ddigwyddiad os oes angen.
Dylid ffonio'r rhif uchod neu'r heddlu ynghylch unrhyw beth sy'n ymwneud ag achosion ar y Rhwydwaith.
