Cynnal a Chadw Asedau’r Priffyrdd
Arolygir ac archwilir rhwydwaith priffyrdd y Cynulliad yn systematig a rheolaidd i sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffyrdd a chynorthwyo wrth gynllunio gwaith cynnal a chadw i’r dyfodol. Mae hyn yn cynnwys:
- Arolygon blynyddol i nodi diffygion
- Profi gwrthsefyll sgidio
- Cyflwr strwythurol y priffyrdd
Trefnir arolygiadau diogelwch a phatrolau diogelwch ar gyfnodau yn amrywio o ddyddiol i fisol yn dibynnu ar gategori’r ffordd.

Bwriad yr arolygiadau hyn yw nodi diffygion sy’n debygol o greu perygl ac sydd angen sylw brys neu uniongyrchol.
Gwneir arolygiadau manwl ar gyfnodau llai aml nag arolygiadau diogelwch ac fe’u defnyddir i sefydlu rhaglenni gwaith cynnal a chadw rheolaidd nad ydynt yn rhai brys.
Dadansoddir y data a gesglir ac fe’u defnyddir i nodi a blaenoriaethu rhaglen y cynlluniau adnewyddu ac uwchraddio.
