Asedau Trydanol
Mae’r asedau trydanol yn cynnwys
- Goleuadau stryd
- Signalau traffig ac
- Unedau goleuo ar gyfer arwyddion traffig.
Mae Tîm Cyflwr yr Asedau’n rheoli’r asedau trydanol gyda chymorth system reoli gyfrifiadurol Mayise.
Mae arolygu goleuadau stryd yn cynnwys patrolau yn y nos i nodi lampau wedi’u diffodd neu wedi’u cuddio gan goed a hefyd brofi strwythurol neu brofi trydanol.

Cynhwysir ardaloedd a nodwyd ar gyfer eu gwella neu’u hadnewyddu yn y rhaglen ar gyfer gwaith yn y dyfodol a chynigion ar gyfer ariannu a gyflwynwyd yn unol â hynny.
I leihau nifer y lampau sy’n diffodd, newidir blociau o lampau yn ôl hyd bywyd tebygol y lampau.
Gall hyn fod yn flynyddol, neu bob dwy neu dair blynedd. Hefyd, glanheir y lampau bob blwyddyn.
Disgwylir i’r signalau traffig weithio heb addasu rheolaidd.
Gwneir archwiliadau i nodi diffygion a all arwain at fethiant yn ddiweddarach. Mae defnyddio bylbiau LED yn lle’r rhai confensiynol wedi hepgor yr angen am newid y bylbiau’n flynyddol.
Mae cyfleusterau monitro o bell i’r rhan fwyaf o’r signalau’n caniatáu i gamgymeriadau gael eu canfod heb angen ymweld â’r lleoliad. Mae’n dal yn bwysig i’r tîm sicrhau bod ymateb y tu allan i oriau gwaith ar gael i ymdrin â signalau sy’n methu neu â difrod yn dilyn unrhyw wrthdrawiad.basis.
Dolenni cysylltiedig

