South Wales Trunk Road Agency

Gweithrediadau’r Ardal

Mae Timau Ardal gan Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru mewn swyddfeydd yng Nghasnewydd (Ardal y Dwyrain) a San Clêr (Ardal y Gorllewin).

Mae’r Timau Ardal yn gyfrifol am weithredu a chyflwyno rhaglenni cynnal a chadw rheolaidd a chylchol trwy Gytundebau Lefel Gwasanaeth gyda Darparwyr Gwasanaeth yr Asiantaeth.

Prif ddyletswydd arall y timau Ardal yw gweithredu ei swyddogaethau dirprwyedig ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni gofynion Deddf Priffyrdd 1980 a’r Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd mewn cysylltiad â chydlynu, cytuno a gorfodi materion yn ymwneud â’r priffyrdd.

Hefyd mae’r timau’n delio ag ymholiadau a chwynion a dderbynnir gan y tîm Gofal Cwsmeriaid ac yn darparu ar gyfer cyfathrebu a chysylltu â’r rhanddeiliaid allweddol i gyd yn yr Ardal i sicrhau bod yr ased yn cael ei gadw mewn cyflwr diogel a defnyddiol.

Mae Tîm yr Ardal hefyd yn monitro gweithrediadau yn yr ardal ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau a gwaith cynnal a chadw i’w hanfon at Gynulliad Cymru. Mae’r timau’n gyfrifol am wneud y canlynol:

  • Rheoli Gwaith Cynnal a Chadw Rheolaidd a Chylchol ar y Priffyrdd a Strwythurau
  • Swyddogaeth Gadwraethol dros y Rhwydwaith
  • Ymateb i Argyfyngau
  • Rheoli Datblygiad
  • Arolygu Gwaith Cynnal a Chadw yn y Gaeaf

Dolenni Cysylltiedig

Rhowch wybod am Ddigwyddiad

Rhowch wybod i ni am falurion neu geudyllau ar:

0845 602 6020

Traffic Image

Y Diweddaraf am y Traffig


yn Nhrafnidiaeth Cymru


Swyddogion Traffig De Cymru

Gwasanaeth Swyddogion Traffig Llywodraeth Cynulliad Cymru


Gwybodaeth am Swyddi Gwag

Cliciwch yma i adael adborth

Download Flash Player