South Wales Trunk Road Agent

skip nav

Datganiad Hygyrchedd

Mae Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y safle hwn yn hygyrch i bawb. Rydym wedi bwriadu i’r safle hwn gadw at y canllawiau canlynol:--

  • XHTML 1.0 Trawsnewidiol
  • CSS 2.0
  • WAI AA
  • Er mwyn dilysu ein cod, rydym wedi defnyddio Bobby 5.0.

"Teclyn meddalwedd hygyrchedd cynhwysfawr y we yw Bobby wedi ei gynllunio i helpu i arddangos a chynnal rhwystrau i hygyrchedd ac annog cydymffurfio â chanllawiau hygyrchedd cyfredol. Mae  Bobby’n profi cydymffurfio â safonau’r llywodraeth, gan gynnwys Adran 508 Llywodraeth UDA. Mae’n cynnig awgrymiadau wedi’u blaenoriaethu yn seiliedig ar Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We a ddarperir gan Fenter Mynediad y We (W3C) y We Fyd-eang. Mae Bobby’n caniatáu i ddatblygwyr brofi tudalennau a chynhyrchu adroddiadau cryno yn amlygu materion hygyrchedd allweddol cyn postio’r cynnwys i weinyddwyr byw.”

Porwyr

Profwyd gwefan AAsiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) ar y rhan fwyaf o’r porwyr blaenllaw presennol. Er mwyn cael y golwg gorau posibl o wefan Asiant Cefnffyrdd De Cymru(SWTRA) argymhellwn sgrin â chydraniad 1024x768 ac o leiaf 65,000 o liwiau.

Profwyd Asiant Cefnffyrdd De Cymru yn y porwyr canlynol:

  • Internet Explorer 5.5 ac uwch
  • Firefox 1.0 ac uwch
  • Netscape 7 ac uwch
  • AOL 9
  • Opera 8 ac uwch
  • Safari 1.0

Plugins

Fflach
Mae’r wefan hon yn defnyddio Macromedia Flash mewn rhai lleoedd. Os na allwch weld y ffilmiau fflach gallwch lwytho i lawr y chwaraewr o wefan Adobe.



PDFau

Rydym hefyd yn defnyddio PDFau mewn mannau fel dogfen arferol i’w lawr lwytho. Os oes angen y fersiwn ddiweddaraf o Adobe Acrobat Reader arnoch , gallwch gael copi o Wefan Adobe.


Bysellau Mynediad

Rhoddwyd bysellau mynediad ar yr allweddell yn ein prif ddewisiadau gwe-lywio ar gyfer defnyddwyr nad ydynt yn defnyddio teclyn pwyntio (fel llygoden).
Mae’r bysellau mynediad a ddefnyddiwyd gennym wedi’u seilio ar argymhellion Llywodraeth y DU.

Bysellau Mynediad Adran
0 - Manylion bysell mynediad
1 - Hafan
2 - Map o’r wefan
3- Telerau ac amodau
s - Osgoi’r gwe-lywio

I ddefnyddio bysell mynediad ym mhorwyr Mozilla pwyswch y fysell 'Alt'  yn ogystal â’r fysell mynediad a restrir isod. Yn  Internet Explorer, pwyswch y fysell 'Alt' yn ogystal â’r fysell mynediad, ac wedyn pwyswch ‘return’. Os ydych yn defnyddio porwr gwahanol ar y rhyngrwyd, edrychwch ar yr adran ‘help’ yng nghyfarwyddiadau’r porwr.

Rhowch wybod am Ddigwyddiad

Rhowch wybod i ni am falurion neu geudyllau ar:

0845 602 6020

Traffic Image

Y Diweddaraf am y Traffig


yn Nhrafnidiaeth Cymru


Swyddogion Traffig De Cymru

Gwasanaeth Swyddogion Traffig Llywodraeth Cynulliad Cymru


Gwybodaeth am Swyddi Gwag


Cliciwch yma i adael adborth

Download Flash Player